Pili Pala - Catrin Dafydd


Paperback - Very Good Condition

£2.50

Dyma nofel am gariad, gwyliau a gwallgofrwydd, am farfalle, ffrindiau a ffawd. Mae Anest Gwyn wedi cael llond bol ar haf diflas Caerdydd. Mae’r glaw ar strydoedd Canton yr un mor fydlyd frown a’r dwr golchi brwshys yn ei dosbarth celf. Mae hi’n ysu am gael cyfle i ddianc i rywle braf. Trwy ryfedd wyrth, daw’r cyfle i fynd ar wyliau i’r Eidal – a hynny am ddim. Pwy fyddai’n gwrthod? Yng nghwmni Mrs Blanche, ei ffrind enigmatig o’r dosbarth peintio, caiff Anest brofiadau a fydd yn newid pethau am byth. Ond ynghanol gwres llethol yr Eidal, datblyga perthynas y ferch ifanc a’r hen wraig yn glymau cnotiog wrth iddynt brofi antur rhyfedd. O’u cwmpas mae stori Mariella, Marco a thrigolion eraill y pentre Toscanaidd delfrydol yn ymddatod yn edefyn hir gan godi cwestiynau hwyliog a heriol am fywyd. Yn gomedi dywyll hon cawn gip ar ragrith, cyffro ac eironi bywyd yn llygad yr haul.

1 in stock

Description

Pili Pala by Catrin Dafydd

In a very good condition. No creasing to the cover or spine. All pages are clean and intact. See photos for more detail.

Additional information

Weight 236 g
Dimensions 19.6 × 12.8 × 1.2 cm
Condition

Format

Paperback

Writer

Catrin Dafydd