Y Cymru Cryfa
In a very good condition. No creasing to the cover and spine. All pages are clean and intact. See photos for more details.
(Postage calculated at checkout)
Bu ennill gwobr ‘Y Cymro Cryfa’yn boendod parhaus i Robin McBryde – cafodd ei herio a’i atgoffa o’r peth ar hyd ei yrfa. Ond atebodd bob her a goroesodd nifer o rwystrau i gyrraedd y brig gan ddangos cryfder cymeriad tu hwnt i’r cyffredin.
Fel un o’r ychydig chwaraewyr o Sir Fôn i lwyddo ar lefel uchaf rygbi rhyngwladol dangosodd ymroddiad Ilwyr i’r gêm, o’i gyfnod cychwynnol yng nghlybiau Porthaethwy ar Wyddgrug, a’i Iwyddiant gydag Abertawe a Llanelli.
Er iddo dreulio cyfnodau ar y fainc o dan Mike Ruddock yn Abertawe a diodde sawl anaf, profodd ei amheuwr yn anghywir gan ddod yn un o fawrion y gêm yng Nghymru. Fel capten Llanelli am ddau dymor enillodd filoedd o edmygwyr, a dangosodd ei ddawn a’i gryfder i’r eithaf gydar tîm cenedlaethol ar Llewod.
Yn ei hunangofiant mae’n agor y llen ar uchelfannau ac iselfannau ei yrfa, yn cynnwys gorfoledd y Gamp Lawn, rhwystredigaeth gydar Llewod, argyfwng Ruddock, a’i orfoledd wrth gacl ei benodi n un o hyfforddwyr allweddol carfan Cymru.